1 Ac ydy, mae fy nghalon i'n crynuac yn methu curiad.
2 Gwrandwch ar ei lais yn rhuo,ac ar ei eiriau'n atseinio!
3 Mae ei fellt yn fflachio drwy'r awyr –ac yn mynd i ben draw'r byd.
4 Yna wedyn, mae'n rhuo eto,a'i lais cryf yn taranu;mae'r mellt wedi hen ddiflannu pan glywir ei lais.
5 Mae sŵn llais Duw'n taranu yn rhyfeddol!Ac mae'n gwneud pethau gwyrthiol, tu hwnt i'n deall ni.
6 Mae'n dweud wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear!’neu wrth y glaw trwm, ‘Arllwys i lawr!’