14 Gwranda ar hyn, Job;Aros i ystyried y pethau rhyfeddol mae Duw'n eu gwneud.
15 Wyt ti'n deall sut mae Duw'n trefnu'r cwbl,ac yn gwneud i'r mellt fflachio o'r cymylau?
16 Wyt ti'n deall sut mae'r cymylau'n aros yn yr awyr? –gwaith rhyfeddol Duw, sy'n deall popeth yn berffaith.
17 Ti, sy'n chwysu yn dy ddilladpan mae'n glòs ac yn boeth dan wynt y de.
18 Alli di helpu Duw i ledu'r awyr,sy'n galed fel drych metel?
19 Dywed wrthon ni beth i'w ddweud wrtho!Dŷn ni ddim yn gwybod, mae hi'n dywyll arnon ni.
20 Fyddwn i ddim yn meiddio gofyn am gael siarad!Ydy dyn meidrol yn gofyn am gael ei lyncu ganddo?