21 Does neb yn gallu edrych ar yr haulpan mae'n disgleirio yn yr awyr,ar ôl i'r gwynt ddod a chlirio'r cymylau i ffwrdd.
22 Fel pelydrau euraid yn llewyrchu o'r gogledd,mae ysblander Duw yn syfrdanol!
23 Mae'r Un sy'n rheoli popeth y tu hwnt i'n cyrraedd ni!Mae ei nerth mor aruthrol fawr!Mae'n gyfiawn ac yn gwneud beth sy'n iawn,a dydy e ddim yn gorthrymu neb.
24 Dyna pam mae pobl yn ei ofni.Dydy e'n cymryd dim sylwo'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain.”