7 Mae'n stopio pawb rhag gweithio,mae pobl yn gorfod sefyll yn segur.
8 Mae anifeiliaid yn mynd i gysgodi,ac i guddio yn eu gwâl.
9 Mae'r corwynt yn codi o'r de,ac oerni o wyntoedd y gogledd.
10 Anadl Duw sy'n dod â rhew,ac mae'r llynnoedd yn rhewi'n galed.
11 Mae'n llenwi'r cymylau trwchus â gwlybaniaethac yn anfon mellt ar wasgar o'r cymylau.
12 Mae'n gwneud i'r cymylau droi a throelli,ac yn gwneud beth mae Duw'n ei orchymyndros wyneb y ddaear i gyd.
13 Mae'n gwneud hyn naill ai i gosbi'r tir,neu i ddangos ei gariad ffyddlon.