9 Mae'r corwynt yn codi o'r de,ac oerni o wyntoedd y gogledd.
10 Anadl Duw sy'n dod â rhew,ac mae'r llynnoedd yn rhewi'n galed.
11 Mae'n llenwi'r cymylau trwchus â gwlybaniaethac yn anfon mellt ar wasgar o'r cymylau.
12 Mae'n gwneud i'r cymylau droi a throelli,ac yn gwneud beth mae Duw'n ei orchymyndros wyneb y ddaear i gyd.
13 Mae'n gwneud hyn naill ai i gosbi'r tir,neu i ddangos ei gariad ffyddlon.
14 Gwranda ar hyn, Job;Aros i ystyried y pethau rhyfeddol mae Duw'n eu gwneud.
15 Wyt ti'n deall sut mae Duw'n trefnu'r cwbl,ac yn gwneud i'r mellt fflachio o'r cymylau?