1 Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud:
2 “Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i,ac yn siarad heb ddeall dim?
3 Torcha dy lewys fel dyn!Gofynna i gwestiynau, a gei di ateb.
4 Ble roeddet ti pan osodais i sylfeini'r ddaear?Ateb fi os wyt ti'n gwybod y cwbl!
5 Pwy benderfynodd beth fyddai ei maint?– ti'n siŵr o fod yn gwybod!Pwy wnaeth ddefnyddio llinyn i'w mesur?