11 Dywedais, ‘Cei di ddod hyd yma, ond dim pellach;dyma lle mae ymchwydd dy donnau yn stopio!’
12 Wyt ti erioed wedi gorchymyn i'r bore ddod,a dangos i'r wawr ble i dorri,
13 a sut i ledu a gafael yn ymylon y ddaear,ac ysgwyd y rhai drwg oddi arni?
14 Mae ei siâp yn dod i'r golwg fel clai dan sêl,a ffurfiau'r tir i'w gweld fel plygion dilledyn.
15 Mae'r golau'n tarfu ar y rhai drwg,ac mae'r fraich sy'n treisio'n cael ei thorri.
16 Wyt ti wedi bod at y ffynhonnau sy'n llenwi'r môr,neu gerdded mannau dirgel y dyfnder?
17 Ydy giatiau marwolaeth wedi eu dangos i ti?Wyt ti wedi gweld y giatiau i'r tywyllwch dudew?