13 a sut i ledu a gafael yn ymylon y ddaear,ac ysgwyd y rhai drwg oddi arni?
14 Mae ei siâp yn dod i'r golwg fel clai dan sêl,a ffurfiau'r tir i'w gweld fel plygion dilledyn.
15 Mae'r golau'n tarfu ar y rhai drwg,ac mae'r fraich sy'n treisio'n cael ei thorri.
16 Wyt ti wedi bod at y ffynhonnau sy'n llenwi'r môr,neu gerdded mannau dirgel y dyfnder?
17 Ydy giatiau marwolaeth wedi eu dangos i ti?Wyt ti wedi gweld y giatiau i'r tywyllwch dudew?
18 Oes gen ti syniad mor fawr ydy'r ddaear?Os wyt ti'n gwybod hyn i gyd – dywed wrtho i!
19 Pa ffordd mae mynd i ble mae'r golau'n byw?O ble mae'r tywyllwch yn dod?