19 Pa ffordd mae mynd i ble mae'r golau'n byw?O ble mae'r tywyllwch yn dod?
20 Wyt ti'n gallu dangos ble mae ffiniau'r ddau,a dangos iddyn nhw sut i fynd adre?
21 Mae'n siŵr dy fod, gan dy fod wedi dy eni bryd hynny,ac wedi bod yn fyw ers cymaint o flynyddoedd!
22 Wyt ti wedi bod i mewn i stordai'r eira,neu wedi gweld y storfeydd o genllysg
23 sy'n cael eu cadw ar gyfer y dyddiau anodd,pan mae brwydrau a rhyfeloedd?
24 Sut mae mynd i ble mae'r mellt yn cael eu gwasgaru?O ble daw gwynt y dwyrain i chwythu drwy'r byd?
25 Pwy gerfiodd sianelau i'r stormydd glaw,a llwybrau i'r mellt a'r taranau,