21 Mae'n siŵr dy fod, gan dy fod wedi dy eni bryd hynny,ac wedi bod yn fyw ers cymaint o flynyddoedd!
22 Wyt ti wedi bod i mewn i stordai'r eira,neu wedi gweld y storfeydd o genllysg
23 sy'n cael eu cadw ar gyfer y dyddiau anodd,pan mae brwydrau a rhyfeloedd?
24 Sut mae mynd i ble mae'r mellt yn cael eu gwasgaru?O ble daw gwynt y dwyrain i chwythu drwy'r byd?
25 Pwy gerfiodd sianelau i'r stormydd glaw,a llwybrau i'r mellt a'r taranau,
26 iddi lawio ar dir lle does neb yn byw,ac anialwch sydd heb unrhyw un yno?
27 Mae'r tir anial sych yn cael ei socian,ac mae glaswellt yn tyfu drosto.