28 Oes tad gan y glaw?Pwy genhedlodd y defnynnau gwlith?
29 O groth pwy y daeth y rhew?Pwy roddodd enedigaeth i'r barrug,
30 pan mae'r dŵr yn troi'n galed,ac wyneb y dyfroedd yn rhewi?
31 Alli di blethu Pleiadesneu ddatod belt Orion?
32 Alli di ddod â'r planedau allan yn eu tymor,neu dywys yr Arth Fawr a'r Arth Fach?
33 Wyt ti'n gyfarwydd â threfn y cosmos,a sut mae'n effeithio ar y ddaear?
34 Alli di roi gorchymyn i'r cymylaui arllwys dŵr ar dy ben fel llif?