31 Alli di blethu Pleiadesneu ddatod belt Orion?
32 Alli di ddod â'r planedau allan yn eu tymor,neu dywys yr Arth Fawr a'r Arth Fach?
33 Wyt ti'n gyfarwydd â threfn y cosmos,a sut mae'n effeithio ar y ddaear?
34 Alli di roi gorchymyn i'r cymylaui arllwys dŵr ar dy ben fel llif?
35 Alli di alw ar y mellt i fflachio,a'u cael nhw i ateb ‘Dyma ni’?
36 Pwy sy'n rhoi doethineb i'r galona deall i'r meddwl?
37 Pwy sy'n ddigon clyfar i gyfri'r cymylau?Pwy sy'n gallu arllwys dŵr o gostreli'r awyr