37 Pwy sy'n ddigon clyfar i gyfri'r cymylau?Pwy sy'n gallu arllwys dŵr o gostreli'r awyr
38 a gwneud i'r pridd lifo fel llaid,ac i'r talpiau o bridd lynu wrth ei gilydd?
39 Wyt ti'n gallu hela ysglyfaeth i'r llewes,a rhoi bwyd i'r llewod ifanc
40 sy'n gorwedd yn eu gwâl,neu'n llechu dan y llwyni am helfa?
41 Pwy sy'n rhoi bwyd i'r gigfranpan mae ei chywion yn galw ar Dduwa hithau'n hedfan o gwmpas heb ddim?