6 Ar beth y gosodwyd ei sylfeini?Pwy osododd ei chonglfaen?
7 Ble oeddet ti pan oedd sêr y bore yn canu gyda'i gilydda holl angylion Duw yn gweiddi'n llawen?
8 Pwy gaeodd y drysau ar y môrwrth iddo arllwys allan o'r groth?
9 Fi roddodd gymylau yn wisg amdano,a'i lapio mewn niwl trwchus.
10 Fi osododd derfyn iddo,a'i gadw tu ôl i ddrysau wedi eu bolltio.
11 Dywedais, ‘Cei di ddod hyd yma, ond dim pellach;dyma lle mae ymchwydd dy donnau yn stopio!’
12 Wyt ti erioed wedi gorchymyn i'r bore ddod,a dangos i'r wawr ble i dorri,