1 Alli di ddal y Lefiathan â bachyn pysgota?Alli di rwymo ei dafod â rhaff?
2 Alli di roi cylch yn ei drwyn,neu wthio bachyn drwy ei ên?
3 Fydd e'n pledio'n daer am drugaredd?Fydd e'n seboni wrth siarad gyda ti?
4 Fydd e'n ceisio dod i gytundeb,ac addo bod yn gaethwas i ti am byth?
5 Alli di chwarae gydag e fel aderyn,neu ei rwymo i ddifyrru dy forynion?
6 Fydd pysgotwyr yn bargeinio amdano?Fydd e'n cael ei rannu rhwng y masnachwyr?
7 Alli di drywanu ei groen gyda phicellau,neu roi bachau pysgota yn ei geg?