3 Fydd e'n pledio'n daer am drugaredd?Fydd e'n seboni wrth siarad gyda ti?
4 Fydd e'n ceisio dod i gytundeb,ac addo bod yn gaethwas i ti am byth?
5 Alli di chwarae gydag e fel aderyn,neu ei rwymo i ddifyrru dy forynion?
6 Fydd pysgotwyr yn bargeinio amdano?Fydd e'n cael ei rannu rhwng y masnachwyr?
7 Alli di drywanu ei groen gyda phicellau,neu roi bachau pysgota yn ei geg?
8 Gafael ynddo, a dychmyga'r frwydr –fyddet ti ddim yn gwneud yr un peth eto!
9 Pam? Am nad oes gobaith ei ddal;mae hyd yn oed ei olwg yn torri calon rhywun.