6 Fydd pysgotwyr yn bargeinio amdano?Fydd e'n cael ei rannu rhwng y masnachwyr?
7 Alli di drywanu ei groen gyda phicellau,neu roi bachau pysgota yn ei geg?
8 Gafael ynddo, a dychmyga'r frwydr –fyddet ti ddim yn gwneud yr un peth eto!
9 Pam? Am nad oes gobaith ei ddal;mae hyd yn oed ei olwg yn torri calon rhywun.
10 Does neb yn ddigon dewr i ddeffro hwn,felly pwy sy'n mynd i sefyll yn fy erbyn i?
11 Pwy sydd wedi rhoi i mi nes bod dyled arna i iddo?Fi sydd biau popeth dan y nef!
12 Dw i ddim am fod yn dawel am ei goesau,ei gryfder, a'i gorff gosgeiddig.