9 Pam? Am nad oes gobaith ei ddal;mae hyd yn oed ei olwg yn torri calon rhywun.
10 Does neb yn ddigon dewr i ddeffro hwn,felly pwy sy'n mynd i sefyll yn fy erbyn i?
11 Pwy sydd wedi rhoi i mi nes bod dyled arna i iddo?Fi sydd biau popeth dan y nef!
12 Dw i ddim am fod yn dawel am ei goesau,ei gryfder, a'i gorff gosgeiddig.
13 Pwy sy'n gallu tynnu ei got oddi arno,neu drywanu ei arfwisg blethog?
14 Pwy sy'n gallu gwthio ei geg ar agor?Mae'r dannedd sydd o'i chwmpas yn frawychus.
15 Mae ei gefn fel rhesi o darianau,wedi eu cloi i'w gilydd gan sêl.