1 A dyma Job yn ateb:
2 “Petai fy rhwystredigaeth yn cael ei bwyso,a'm helyntion yn cael eu rhoi mewn clorian,
3 bydden nhw'n drymach na holl dywod y môr!Dim syndod fy mod i wedi siarad yn fyrbwyll!
4 Mae saethau'r Duw Hollalluog yn fy nghorff,ac mae fy ysbryd wedi sugno eu gwenwyn.Mae'r dychryn mae Duw yn ei achosifel rhes o filwyr yn ymosod arna i.
5 Ydy asyn gwyllt yn nadu pan mae ganddo laswellt?Ydy ychen yn brefu pan mae ganddo borfa?
6 Ydy bwyd di-flas yn cael ei fwyta heb halen?Oes blas ar y gwynwy?