11 Does gen i mo'r cryfder i ddal ati;beth ydy'r pwynt o aros yn fyw?
12 Oes gen i gryfder fel y graig?Oes gen i gnawd fel pres?
13 Y gwir ydy, does gen i ddim nerth o gwbl!Alla i wneud dim i helpu fy hunan.
14 Dylai rhywun sy'n anobeithio gael ffrindiau sy'n ffyddlon,hyd yn oed os ydy e'n troi ei gefn ar yr Un sy'n rheoli popeth;
15 Ond alla i ddim dibynnu o gwbl arnoch chi, frodyr!Dych chi fel sychnant lle roedd dŵr yn gorlifo ar un adeg.
16 Fel ffrwd sy'n dywyll o dan rewac wedi ei chuddio o dan eira;
17 ond cyn gynted ag y mae'n meirioli mae'n sychu– yn y gwres tanbaid mae hi'n diflannu.