17 ond cyn gynted ag y mae'n meirioli mae'n sychu– yn y gwres tanbaid mae hi'n diflannu.
18 Mae carafanau camelod yn gadael eu llwybr,ac yn troi am y tir anial, ond mae'r ffrwd wedi mynd.
19 Mae carafanau Tema yn chwilio am y dŵr,a marchnatwyr Sheba yn gobeithio dod o hyd iddo.
20 Maen nhw mor hyderus, ond byddan nhw'n cael eu siomi;byddan nhw'n cyrraedd y lle, ac yn sefyll yno'n syfrdan.
21 Ac felly dych chi! Fel nant wedi sychu, yn dda i ddim!Dych chi'n gweld fy helynt, ac yn cael eich dychryn.
22 Ydw i wedi dweud, ‘Rhowch rodd i mi!’neu, ‘Talwch gildwrn drosto i o'ch cyfoeth’?
23 ‘Achubwch fi o afael y gelyn!’neu, ‘Rhyddhewch fi o afael y gormeswyr!’?