5 Ydy asyn gwyllt yn nadu pan mae ganddo laswellt?Ydy ychen yn brefu pan mae ganddo borfa?
6 Ydy bwyd di-flas yn cael ei fwyta heb halen?Oes blas ar y gwynwy?
7 Dw i'n gwrthod eu cyffwrdd nhw;maen nhw'n gwneud i mi fod eisiau chwydu.
8 O na fyddwn i'n cael fy nymuniad,a bod Duw yn rhoi i mi beth dw i eisiau.
9 O na fyddai Duw yn fodlon fy lladd fel pryf,trwy godi ei law a'm taro i lawr!
10 Faint bynnag o boen fyddai'n rhaid i mi ei ddiodde,byddai'n gysur i mify mod heb wrthod geiriau'r Un Sanctaidd.
11 Does gen i mo'r cryfder i ddal ati;beth ydy'r pwynt o aros yn fyw?