10 Byddan nhw'n siŵr o dy ddysgu,ac esbonio beth wnaethon nhw ei ddeall.
11 Ydy papurfrwyn yn gallu tyfu heb gors?Ydy brwyn yn gallu tyfu heb ddŵr?
12 Wrth ddechrau tyfu, cyn bod yn barod i'w torri,bydden nhw'n gwywo'n gynt na'r glaswellt.
13 Dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n anghofio Duw;mae gobaith yr annuwiol yn diflannu –
14 mae fel gafael mewn edau frau,neu bwyso ar we pry cop.
15 Mae'n pwyso arno ac yn syrthio;mae'n gafael ynddo i godi, ond yn methu.
16 Dan wenau'r haul mae'n blanhigyn iachwedi ei ddyfrio, a'i frigau'n lledu drwy'r ardd.