12 Petai'n cymryd rhywbeth, pwy all ei stopio?Pwy fyddai'n meiddio dweud, ‘Beth wyt ti'n wneud?’
13 Duw ydy e, a dydy e ddim yn atal ei ddigofaint;Mae helpwyr bwystfil y môr wedi eu bwrw i lawr.
14 Felly pa obaith sydd i mi ei ateb,a dod o hyd i ddadleuon yn ei erbyn?
15 Er fy mod i'n ddieuog, alla i mo'i ateb,dim ond pledio am drugaredd gan fy Marnwr.
16 Hyd yn oed petai'n ymateb i'm gwŷs,allwn i ddim bod yn siŵr y byddai'n gwrando arna i –
17 oherwydd mae'n fy sathru i am y nesa peth i ddim,ac wedi fy anafu drosodd a throsodd am ddim rheswm.
18 Dydy e ddim yn rhoi cyfle i mi ddal fy ngwynt,dim ond fy llenwi â gwenwyn chwerw!