16 Hyd yn oed petai'n ymateb i'm gwŷs,allwn i ddim bod yn siŵr y byddai'n gwrando arna i –
17 oherwydd mae'n fy sathru i am y nesa peth i ddim,ac wedi fy anafu drosodd a throsodd am ddim rheswm.
18 Dydy e ddim yn rhoi cyfle i mi ddal fy ngwynt,dim ond fy llenwi â gwenwyn chwerw!
19 Os mai prawf cryfder ydy hyn – fe ydy'r Un cry!Os mai cwestiwn o bwy sy'n iawn – pwy sy'n mynd i'w alw e i'r llys?
20 Er fy mod i'n ddieuog, byddai fy ngeiriau'n fy nghondemnio i;Er fy mod i'n ddi-fai, byddai e'n dangos i mi fy mod yn euog.
21 Dydw i ddim ar fai,ond dw i'n poeni dim beth fydd yn digwydd i mi;dw i wedi cael llond bol ar fywyd!
22 ‘Does dim gwahaniaeth!’, dyna dw i'n ddweud,‘Mae e'n dinistrio'r di-fai a'r euog fel ei gilydd.’