19 Os mai prawf cryfder ydy hyn – fe ydy'r Un cry!Os mai cwestiwn o bwy sy'n iawn – pwy sy'n mynd i'w alw e i'r llys?
20 Er fy mod i'n ddieuog, byddai fy ngeiriau'n fy nghondemnio i;Er fy mod i'n ddi-fai, byddai e'n dangos i mi fy mod yn euog.
21 Dydw i ddim ar fai,ond dw i'n poeni dim beth fydd yn digwydd i mi;dw i wedi cael llond bol ar fywyd!
22 ‘Does dim gwahaniaeth!’, dyna dw i'n ddweud,‘Mae e'n dinistrio'r di-fai a'r euog fel ei gilydd.’
23 Pan mae ei chwip yn dod â marwolaeth sydyn,mae e'n chwerthin ar anobaith y dieuog.
24 Mae'r tir wedi ei roi yn nwylo pobl ddrwg,ac mae Duw'n rhoi mwgwd dros lygaid ei barnwyr.Os nad fe sy'n gwneud hyn, yna pwy sydd?
25 Mae dyddiau fy mywyd yn mynd heibio'n gynt na rhedwr;yn rhuthro i ffwrdd heb i mi weld hapusrwydd.