8 Mae e'n lledu'r awyr,ac yn sathru tonnau'r môr.
9 Fe wnaeth yr Arth ac Orion,Pleiades a chlystyrau sêr y de.
10 Mae'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni,a phethau rhyfeddol na ellir byth eu cyfrif.
11 Ond petai'n pasio heibio allwn i mo'i weld;mae'n symud yn ei flaen heb i mi sylwi.
12 Petai'n cymryd rhywbeth, pwy all ei stopio?Pwy fyddai'n meiddio dweud, ‘Beth wyt ti'n wneud?’
13 Duw ydy e, a dydy e ddim yn atal ei ddigofaint;Mae helpwyr bwystfil y môr wedi eu bwrw i lawr.
14 Felly pa obaith sydd i mi ei ateb,a dod o hyd i ddadleuon yn ei erbyn?