Genesis 10 BCN

Disgynyddion Meibion Noa

1 Dyma genedlaethau meibion Noa, sef Sem, Cham a Jaffeth. Ganwyd iddynt feibion wedi'r dilyw.

2 Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras.

3 Meibion Gomer: Ascenas, Riffath, a Togarma.

4 Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Cittim, a Dodanim;

5 o'r rhain yr ymrannodd pobl yr ynysoedd. Dyna feibion Jaffeth yn eu gwledydd, pob un yn ôl ei iaith a'i lwyth, ac yn eu cenhedloedd.

6 Meibion Cham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan.

7 Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan.

8 Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear.

9 Yr oedd yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD; dyna pam y dywedir, “Fel Nimrod, yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD.”

10 Dechreuodd ei frenhiniaeth gyda Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Sinar.

11 Aeth allan o'r wlad honno i Asyria ac adeiladu Ninefe, Rehoboth-ir, Cala,

12 a Resen, dinas fawr rhwng Ninefe a Cala.

13 Yr oedd Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim,

14 Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y daeth y Philistiaid ohonynt.

15 Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth;

16 hefyd y Jebusiaid, Amoriaid, Girgasiaid,

17 Hefiaid, Arciaid, Siniaid,

18 Arfadiaid, Semariaid, a Hamathiaid. Wedi hynny gwasgarwyd teuluoedd y Canaaneaid,

19 ac estyn eu ffin o Sidon i gyfeiriad Gerar, hyd Gasa; ac i gyfeiriad Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, hyd Lesa.

20 Dyna feibion Cham, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.

21 I Sem hefyd, tad holl feibion Heber, brawd hynaf Jaffeth, ganwyd plant.

22 Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffaxad, Lud, ac Aram.

23 Meibion Aram: Us, Hul, Gether, a Mas.

24 Arffaxad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber.

25 I Heber ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd.

26 Joctan oedd tad Almodad, Saleff, Hasar-mafeth, Jera,

27 Hadoram, Usal, Dicla,

28 Obal, Abimael, Seba,

29 Offir, Hafila, a Jobab; yr oeddent oll yn feibion Joctan.

30 Yr oedd eu tir yn ymestyn o Mesa i gyfeiriad Seffar, i fynydd-dir y dwyrain.

31 Dyna feibion Sem, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.

32 Dyma lwythau meibion Noa, yn ôl eu hachau, yn eu cenhedloedd; ac o'r rhain yr ymrannodd y cenhedloedd dros y ddaear wedi'r dilyw.