Genesis 4 BCN

Cain ac Abel

1 Cafodd Adda gyfathrach â'i wraig Efa, a beichiogodd ac esgor ar Cain, a dywedodd, “Dygais ŵr trwy yr ARGLWYDD.”

2 Esgorodd wedyn ar ei frawd Abel. Bugail defaid oedd Abel, a Cain yn trin y tir.

3 Ymhen amser daeth Cain ag offrwm o gynnyrch y tir i'r ARGLWYDD,

4 a daeth Abel yntau â blaenffrwyth ei ddefaid, sef eu braster.

5 Edrychodd yr ARGLWYDD yn ffafriol ar Abel a'i offrwm, ond nid felly ar Cain a'i offrwm. Digiodd Cain yn ddirfawr, a bu'n wynepdrist.

6 Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Cain, “Pam yr wyt wedi digio? Pam yr wyt yn wynepdrist?

7 Os gwnei yn dda, oni fyddi'n gymeradwy? Ac oni wnei yn dda, y mae pechod yn llercian wrth y drws; y mae ei wanc amdanat, ond rhaid i ti ei drechu.”

8 A dywedodd Cain wrth Abel ei frawd, “Gad inni fynd i'r maes.” A phan oeddent yn y maes, troes Cain ar Abel ei frawd, a'i ladd.

9 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Cain, “Ble mae dy frawd Abel?” Meddai yntau, “Ni wn i. Ai fi yw ceidwad fy mrawd?”

10 A dywedodd Duw, “Beth wyt wedi ei wneud? Y mae llef gwaed dy frawd yn gweiddi arnaf o'r pridd.

11 Yn awr, melltigedig fyddi gan y pridd a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law.

12 Pan fyddi'n trin y pridd, ni fydd mwyach yn rhoi ei ffrwyth iti; ffoadur a chrwydryn fyddi ar y ddaear.”

13 Yna meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Y mae fy nghosb yn ormod i'w dwyn.

14 Dyma ti heddiw yn fy ngyrru ymaith o'r tir, ac fe'm cuddir o'th ŵydd; ffoadur a chrwydryn fyddaf ar y ddaear, a bydd pwy bynnag a ddaw ar fy nhraws yn fy lladd.”

15 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Nid felly; os bydd i rywun ladd Cain, dielir arno seithwaith.” A gosododd yr ARGLWYDD nod ar Cain, rhag i neb a ddôi ar ei draws ei ladd.

16 Yna aeth Cain ymaith o ŵydd yr ARGLWYDD, a phreswylio yn nhir Nod, i'r dwyrain o Eden.

Disgynyddion Cain

17 Cafodd Cain gyfathrach â'i wraig, a beichiogodd ac esgor ar Enoch; ac adeiladodd ddinas, a'i galw ar ôl ei fab, Enoch.

18 Ac i Enoch ganwyd Irad; Irad oedd tad Mehwiael, Mehwiael oedd tad Methwsael, a Methwsael oedd tad Lamech.

19 Cymerodd Lamech ddwy wraig; Ada oedd enw'r gyntaf, a Sila oedd enw'r ail.

20 Esgorodd Ada ar Jabal; ef oedd tad pob preswylydd pabell a pherchen anifail.

21 Enw ei frawd oedd Jwbal; ef oedd tad pob canwr telyn a phib.

22 Esgorodd Sila, y wraig arall, ar Twbal-Cain, cyfarwyddwr pob un sy'n gwneud cywreinwaith pres a haearn. Naama oedd chwaer Twbal-Cain.

23 A dywedodd Lamech wrth ei wragedd:“Ada a Sila, clywch fy llais;chwi wragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd;lleddais ŵr am fy archolli, a llanc am fy nghleisio.

24 Os dielir am Cain seithwaith,yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.”

Seth ac Enos

25 Cafodd Adda gyfathrach â'i wraig eto, ac esgorodd ar fab, a'i alw'n Seth, a dweud, “Darparodd Duw i mi fab arall yn lle Abel, am i Cain ei ladd.”

26 I Seth hefyd fe anwyd mab, a galwodd ef yn Enos. Yr amser hwnnw y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.