Genesis 20 BCN

Abraham ac Abimelech

1 Ymdeithiodd Abraham oddi yno i ardal y Negef, a byw rhwng Cades a Sur. Arhosodd dros dro yn Gerar,

2 ac yno dywedodd Abraham am ei wraig Sara, “Fy chwaer yw hi”; ac anfonodd Abimelech brenin Gerar am Sara, a'i chymryd.

3 Ond daeth Duw at Abimelech mewn breuddwyd nos, a dweud wrtho, “Fe fyddi farw o achos y wraig a gymeraist, oherwydd gwraig briod yw hi.”

4 Ond nid oedd Abimelech wedi nesáu ati; a dywedodd, “ARGLWYDD, a leddi di bobl ddiniwed?

5 Oni ddywedodd ef wrthyf, ‘Fy chwaer yw hi’, a hithau, ‘Fy mrawd yw ef’? Gwneuthum hyn â chydwybod dawel a dwylo glân.”

6 Yna dywedodd Duw wrtho yn y freuddwyd, “Mi wn iti wneud hyn â chydwybod dawel; cedwais innau di rhag pechu yn f'erbyn, a dyna pam na adewais iti ei chyffwrdd.

7 Yn awr, rho'r wraig yn ôl i'w gŵr, oherwydd proffwyd yw ac fe weddïa trosot, fel y byddi fyw. Ond os na roi hi'n ôl, deall di y byddi'n siŵr o farw, ti a'th dylwyth.”

8 Cododd Abimelech yn fore, a galw ei holl weision a dweud wrthynt am yr holl bethau hyn; a chafodd y dynion fraw mawr.

9 Yna galwodd Abimelech am Abraham a dweud wrtho, “Beth a wnaethost i ni? Sut yr wyf fi wedi pechu yn dy erbyn, i beri iti ddwyn pechod mawr arnaf fi a'm teyrnas? Yr wyt wedi gwneud pethau i mi na ddylid eu gwneud.”

10 Dywedodd Abimelech ymhellach wrth Abraham, “Beth oedd yn dy feddwl wrth wneud y peth hwn?”

11 Atebodd Abraham, “Mi feddyliais nad oedd neb yn ofni Duw yn y lle hwn, ac y byddent yn fy lladd o achos fy ngwraig.

12 Ac yn wir, fy chwaer yw hi, merch fy nhad, ond nid merch fy mam; a daeth yn wraig i mi.

13 A phan barodd Duw imi adael tŷ fy nhad, dywedais wrthi, ‘Mynnaf y gymwynas hon gennyt: i ble bynnag yr awn, dywed amdanaf, “Fy mrawd yw ef”.’ ”

14 Yna cymerodd Abimelech ddefaid, ychen, gweision a morynion, a'u rhoi i Abraham, a rhoes ei wraig Sara yn ôl iddo.

15 A dywedodd Abimelech, “Dyma fy ngwlad o'th flaen; cei fyw lle bynnag y dymuni.”

16 A dywedodd wrth Sara, “Dyma fi wedi rhoi i'th frawd fil o ddarnau arian; bydd hyn yn dy glirio ac yn dy gyfiawnhau'n llwyr yng ngŵydd pawb sydd gyda thi.”

17 Yna gweddïodd Abraham ar Dduw, ac iachaodd Duw Abimelech a'i wraig a'i forynion; a chawsant blant.

18 Oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi llwyr atal bob planta yn nheulu Abimelech, o achos Sara gwraig Abraham.