Genesis 44 BCN

Y Cwpan Coll

1 Gorchmynnodd Joseff i swyddog ei dŷ, “Llanw sachau'r dynion â chymaint ag y gallant ei gario o fwyd, a rho arian pob un yng ngenau ei sach.

2 A rho fy nghwpan i, y cwpan arian, yng ngenau sach yr ieuengaf, gyda'i arian am yr ŷd.” Gwnaeth yntau fel y dywedodd Joseff.

3 Pan dorrodd y wawr, anfonwyd y dynion ymaith gyda'u hasynnod.

4 Wedi iddynt fynd ychydig bellter o'r ddinas dywedodd Joseff wrth swyddog ei dŷ, “I ffwrdd â thi ar ôl y dynion, a phan oddiweddi hwy dywed wrthynt, ‘Pam yr ydych wedi talu drwg am dda? Pam yr ydych wedi lladrata fy nghwpan arian?

5 O hwn y byddai f'arglwydd yn yfed ac yn dewino. Yr ydych wedi gwneud peth drwg.’ ”

6 Pan oddiweddodd hwy dywedodd felly wrthynt.

7 Atebasant hwythau, “Pam y mae ein harglwydd yn dweud peth fel hyn? Ni fyddai dy weision byth yn gwneud y fath beth.

8 Cofia ein bod wedi dod â'r arian a gawsom yng ngenau ein sachau yn ôl atat o wlad Canaan. Pam felly y byddem yn lladrata arian neu aur o dŷ dy arglwydd?

9 Os ceir y cwpan gan un o'th weision, bydded hwnnw farw; a byddwn ninnau'n gaethion i'n harglwydd.”

10 “O'r gorau,” meddai yntau, “bydded fel y dywedwch chwi. Bydd yr un y ceir y cwpan ganddo yn gaethwas i mi, ond bydd y gweddill ohonoch yn rhydd.”

11 Yna tynnodd pob un ei sach i lawr ar unwaith, a'i agor.

12 Chwiliodd yntau, gan ddechrau gyda'r hynaf a gorffen gyda'r ieuengaf, a chafwyd y cwpan yn sach Benjamin.

13 Rhwygasant eu dillad, a llwythodd pob un ei asyn a dychwelyd i'r ddinas.

14 Pan ddaeth Jwda a'i frodyr i'r tŷ, yr oedd Joseff yno o hyd, a syrthiasant i lawr o'i flaen.

15 Dywedodd Joseff wrthynt, “Beth yw hyn yr ydych wedi ei wneud? Oni wyddech fod dyn fel fi yn gallu dewino?”

16 Atebodd Jwda, “Beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? Beth a lefarwn? Sut y gallwn brofi ein diniweidrwydd? Y mae Duw wedi dangos twyll dy weision. Dyma ni, a'r un yr oedd y cwpan ganddo, yn gaethion i'n harglwydd.”

17 Ond dywedodd Joseff, “Ni allaf wneud peth felly. Dim ond yr un yr oedd y cwpan ganddo a fydd yn gaethwas i mi. Cewch chwi fynd mewn heddwch at eich tad.”

18 Yna nesaodd Jwda ato, a dweud, “O f'arglwydd, caniatâ i'th was lefaru yng nghlyw f'arglwydd, a phaid â digio wrth dy was; oherwydd yr wyt ti fel Pharo.

19 Holodd f'arglwydd ei weision, ‘A oes gennych dad, neu frawd?’

20 Ac atebasom ein harglwydd, ‘Y mae gennym dad sy'n hen ŵr, a brawd bach, plentyn ei henaint. Bu farw ei frawd, ac ef yn unig sy'n aros o blant ei fam, ac y mae ei dad yn ei garu.’

21 Yna dywedaist wrth dy weision, ‘Dewch ag ef i lawr ataf imi gael ei weld.’

22 Dywedasom wrth f'arglwydd, ‘Ni all y bachgen adael ei dad, oherwydd os gwna, bydd ei dad farw.’

23 Dywedaist tithau wrth dy weision, ‘Os na ddaw eich brawd ieuengaf gyda chwi, ni chewch weld fy wyneb i eto.’

24 Aethom yn ôl at dy was ein tad, ac adrodd wrtho eiriau f'arglwydd.

25 A phan ddywedodd ein tad, ‘Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni’,

26 atebasom, ‘Ni allwn fynd. Fe awn os daw ein brawd ieuengaf gyda ni, ond ni chawn weld wyneb y dyn os na fydd ef gyda ni.’

27 A dywedodd dy was ein tad wrthym, ‘Gwyddoch i'm gwraig esgor ar ddau fab;

28 aeth un ymaith a dywedais, “Rhaid ei fod wedi ei larpio”, ac ni welais ef wedyn.

29 Os cymerwch hwn hefyd ymaith a bod niwed yn digwydd iddo, yna fe wnewch i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.’

30 Ac yn awr os dof at dy was fy nhad heb y bachgen,

31 bydd farw pan wêl na ddaeth y bachgen yn ôl, am fod einioes y ddau ynghlwm wrth ei gilydd; a bydd dy weision yn peri i benwynni dy was ein tad ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.

32 Oherwydd aeth dy was yn feichiau am y bachgen i'm tad, gan ddweud, ‘Os na ddychwelaf ef atat byddaf yn euog am byth yng ngolwg fy nhad.’

33 Yn awr felly, gad i'th was aros yn gaethwas i'm harglwydd yn lle'r bachgen; a gad iddo ef fynd gyda'i frodyr.

34 Oherwydd sut y gallaf fynd yn ôl at fy nhad heb y bachgen? Nid wyf am weld loes fy nhad.”