Genesis 24 BCN

Sicrhau Gwraig i Isaac

1 Yr oedd Abraham yn hen ac oedrannus, ac yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei fendithio ef ym mhob dim.

2 Yna dywedodd Abraham wrth y gwas hynaf yn ei dŷ, yr un oedd yn gofalu am ei holl eiddo, “Gosod dy law dan fy nghlun,

3 a pharaf iti dyngu i'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na chymeri wraig i'm mab o ferched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu plith,

4 ond yr ei i'm gwlad ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab Isaac.”

5 Dywedodd y gwas wrtho, “Efallai na fydd y wraig am ddod ar fy ôl i'r wlad hon; a fydd raid i mi fynd â'th fab yn ôl i'r wlad y daethost allan ohoni?”

6 Dywedodd Abraham wrtho, “Gofala nad ei â'm mab yn ôl yno.

7 Yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, yr un a'm cymerodd o dŷ fy nhad ac o wlad fy ngeni, ac a lefarodd a thyngu wrthyf, a dweud, ‘Rhof y wlad hon i'th ddisgynyddion’, bydd ef yn anfon ei angel o'th flaen, ac fe gymeri wraig i'm mab oddi yno.

8 Os na fydd y wraig am ddod ar dy ôl, yna byddi'n rhydd oddi wrth y llw hwn; ond paid â mynd â'm mab yn ôl yno.”

9 Felly gosododd y gwas ei law dan glun ei feistr Abraham, a thyngu iddo am y mater hwn.

10 Yna cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr, a mynd ymaith a holl anrhegion ei feistr dan ei ofal, ac aeth i Aram-naharaim, i ddinas Nachor.

11 Parodd i'r camelod orwedd y tu allan i'r ddinas, wrth y pydew dŵr, gyda'r hwyr, sef yr amser y byddai'r merched yn dod i godi dŵr.

12 A dywedodd, “O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, rho lwyddiant i mi heddiw, a gwna garedigrwydd â'm meistr Abraham.

13 Dyma fi'n sefyll wrth y ffynnon ddŵr, a merched y ddinas yn dod i godi dŵr.

14 Y ferch y dywedaf wrthi, ‘Gostwng dy stên, er mwyn i mi gael yfed’, a hithau'n ateb, ‘Yf, ac mi rof ddiod i'th gamelod hefyd’, bydded mai honno fydd yr un a ddarperaist i'th was Isaac. Wrth hyn y caf wybod iti wneud caredigrwydd â'm meistr.”

15 Cyn iddo orffen siarad, dyma Rebeca, a anwyd i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham, yn dod allan â'i stên ar ei hysgwydd.

16 Yr oedd y ferch yn hardd odiaeth, yn wyryf, heb orwedd gyda gŵr. Aeth i lawr at y ffynnon, llanwodd ei stên, a daeth i fyny.

17 Rhedodd y gwas i'w chyfarfod, a dweud, “Gad imi yfed ychydig ddŵr o'th stên.”

18 Dywedodd hithau, “Yf, f'arglwydd,” a brysio i ostwng ei stên ar ei llaw, a rhoi diod iddo.

19 Pan orffennodd roi diod iddo, dywedodd hi, “Codaf ddŵr i'th gamelod hefyd, nes iddynt gael digon.”

20 Brysiodd i dywallt ei stên i'r cafn, a rhedeg eilwaith i'r ffynnon, a chodi dŵr i'w holl gamelod.

21 Syllodd y gŵr arni, heb ddweud dim, i wybod a oedd yr ARGLWYDD wedi llwyddo'i daith ai peidio.

22 Pan orffennodd y camelod yfed, cymerodd y gŵr fodrwy aur yn pwyso hanner sicl, a dwy freichled yn pwyso deg sicl o aur i'w garddyrnau,

23 ac meddai, “Dywed wrthyf, merch pwy wyt ti? A oes lle i ni aros noson yn nhŷ dy dad?”

24 Dywedodd hithau wrtho, “Merch Bethuel fab Milca a Nachor.”

25 Ac ychwanegodd, “Y mae gennym ddigon o wellt a phorthiant, a lle i letya.”

26 Ymgrymodd y gŵr i addoli'r ARGLWYDD,

27 a dweud, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am nad ataliodd ei garedigrwydd a'i ffyddlondeb oddi wrth fy meistr. Arweiniodd yr ARGLWYDD fi ar fy nhaith i dŷ brodyr fy meistr.”

28 Rhedodd y ferch a mynegi'r pethau hyn i dylwyth ei mam.

29 Ac yr oedd gan Rebeca frawd o'r enw Laban, a rhedodd ef allan at y gŵr wrth y ffynnon.

30 Pan welodd y fodrwy, a'r breichledau ar arddyrnau ei chwaer, a chlywed geiriau ei chwaer Rebeca am yr hyn a ddywedodd y gŵr wrthi, aeth at y gŵr oedd yn sefyll gyda'r camelod wrth y ffynnon.

31 Dywedodd, “Tyrd i'r tŷ, fendigedig yr ARGLWYDD; pam yr wyt yn sefyll y tu allan, a minnau wedi paratoi'r tŷ, a lle i'r camelod?”

32 Pan ddaeth y gŵr at y tŷ, gollyngodd Laban y camelod, ac estyn gwellt a phorthiant iddynt, a rhoi dŵr i'r gŵr a'r dynion oedd gydag ef i olchi eu traed.

33 Pan osodwyd bwyd o'i flaen, dywedodd y gŵr, “Nid wyf am fwyta nes imi ddweud fy neges.” Ac meddai Laban, “Traetha.”

34 Dywedodd, “Gwas Abraham wyf fi.

35 Y mae'r ARGLWYDD wedi bendithio fy meistr yn helaeth, ac y mae yntau wedi llwyddo; y mae wedi rhoi iddo ddefaid ac ychen, arian ac aur, gweision a morynion, camelod ac asynnod.

36 Ac y mae Sara gwraig fy meistr wedi geni mab iddo yn ei henaint; ac y mae fy meistr wedi rhoi ei holl eiddo i hwnnw.

37 Parodd fy meistr i mi fynd ar fy llw, a dywedodd, ‘Paid â chymryd gwraig i'm mab o blith merched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu gwlad;

38 ond dos i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab.’

39 Dywedais wrth fy meistr, ‘Efallai na ddaw'r wraig ar fy ôl.’

40 Ond dywedodd yntau wrthyf, ‘Bydd yr ARGLWYDD, yr wyf yn rhodio ger ei fron, yn anfon ei angel gyda thi ac yn llwyddo dy daith. Os cymeri wraig i'm mab o'm tylwyth ac o dŷ fy nhad,

41 yna byddi'n rhydd oddi wrth fy llw; os doi at fy nhylwyth, a hwythau'n gwrthod ei rhoi iti, byddi hefyd yn rhydd oddi wrth fy llw.’

42 Pan ddeuthum heddiw at y ffynnon, dywedais, ‘O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, os wyt am lwyddo fy nhaith yn awr,

43 tra wyf yn sefyll wrth y ffynnon ddŵr, bydded mai'r ferch ifanc a ddaw allan i godi dŵr ac yna, pan ddywedaf wrthi, “Rho i mi ychydig ddŵr i'w yfed o'th stên”,

44 fydd yn ateb, “Yf, a chodaf ddŵr i'th gamelod hefyd”, bydded mai honno fydd y wraig y mae'r ARGLWYDD wedi ei darparu i fab fy meistr.’

45 Cyn i mi orffen gwneud fy nghais, dyma Rebeca yn dod allan â'i stên ar ei hysgwydd; aeth i lawr at y ffynnon a chodi dŵr. Dywedais wrthi, ‘Gad imi yfed.’

46 Brysiodd hithau i ostwng ei stên oddi ar ei hysgwydd, a dywedodd, ‘Yf, a rhof ddiod i'th gamelod hefyd.’ Yfais, a rhoes hithau ddiod i'r camelod.

47 Yna gofynnais iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ Ac meddai hithau, ‘Merch Bethuel fab Nachor a Milca.’ Yna gosodais y fodrwy yn ei thrwyn, a'r breichledau am ei garddyrnau.

48 Ymgrymais i addoli'r ARGLWYDD, a bendithiais yr ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, a arweiniodd fi yn y ffordd iawn i gymryd merch brawd fy meistr i'w fab.

49 Yn awr, os ydych am wneud caredigrwydd a ffyddlondeb i'm meistr, dywedwch wrthyf; ac onid e, dywedwch wrthyf, fel y gallaf droi ar y llaw dde neu'r chwith.”

50 Yna atebodd Laban a Bethuel, a dweud, “Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth hyn; ni allwn ni ddweud dim wrthyt, na drwg na da.

51 Dyma Rebeca o'th flaen; cymer hi a dos. A bydded yn wraig i fab dy feistr, fel y dywedodd yr ARGLWYDD.”

52 Pan glywodd gwas Abraham eu geiriau, ymgrymodd i'r llawr gerbron yr ARGLWYDD,

53 ac estynnodd dlysau o arian ac aur, a gwisgoedd, a'u rhoi i Rebeca; rhoddodd hefyd anrhegion gwerthfawr i'w brawd ac i'w mam.

54 A bwytaodd ac yfodd, ef a'r dynion oedd gydag ef, ac aros yno noson. Pan godasant yn y bore, dywedodd, “Gadewch imi fynd at fy meistr.”

55 Ac meddai ei brawd a'i mam, “Gad i'r ferch aros gyda ni am o leiaf ddeg diwrnod; wedi hynny caiff fynd.”

56 Ond dywedodd ef wrthynt, “Peidiwch â'm rhwystro, gan i'r ARGLWYDD lwyddo fy nhaith; gadewch imi fynd at fy meistr.”

57 Yna dywedasant, “Galwn ar y ferch, a gofynnwn iddi hi.”

58 A galwasant ar Rebeca, a dweud wrthi, “A ei di gyda'r gŵr hwn?” Atebodd hithau, “Af.”

59 Felly gollyngasant eu chwaer Rebeca a'i mamaeth, a gwas Abraham a'i ddynion,

60 a bendithio Rebeca, a dweud wrthi,“Tydi, ein chwaer, boed iti fyndyn filoedd o fyrddiynau,a bydded i'th ddisgynyddionetifeddu porth eu gelynion.”

61 Yna cododd Rebeca a'i morynion, a marchogaeth ar y camelod gan ddilyn y gŵr; felly cymerodd y gwas Rebeca a mynd ymaith.

62 Yr oedd Isaac wedi dod o Beer-lahai-roi ac yn byw yn ardal y Negef.

63 Pan oedd Isaac allan yn myfyrio yn y maes fin nos, cododd ei olygon i edrych, a gwelodd gamelod yn dod.

64 Cododd Rebeca hefyd ei golygon, a phan welodd Isaac, disgynnodd oddi ar y camel,

65 a gofyn i'r gwas, “Pwy yw'r gŵr acw sy'n cerdded yn y maes tuag atom?” Atebodd y gwas, “Dyna fy meistr.” Cymerodd hithau orchudd a'i wisgo.

66 Ac adroddodd y gwas wrth Isaac am bopeth yr oedd wedi ei wneud.

67 Yna daeth Isaac â Rebeca i mewn i babell ei fam Sara, a'i chymryd yn wraig iddo. Carodd Isaac Rebeca, ac felly cafodd gysur ar ôl marw ei fam.