Genesis 15 BCN

Cyfamod Duw ag Abram

1 Wedi'r pethau hyn, daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, a dweud, “Nac ofna, Abram, myfi yw dy darian; bydd dy wobr yn fawr iawn.”

2 Ond dywedodd Abram, “O Arglwydd DDUW, beth a roddi i mi, oherwydd rwy'n para'n ddi-blant, ac etifedd fy nhŷ yw Eleasar o Ddamascus?”

3 Dywedodd Abram hefyd, “Edrych, nid wyt wedi rhoi epil i mi; a chaethwas o'm tŷ yw f'etifedd.”

4 Yna daeth gair yr ARGLWYDD ato a dweud, “Nid hwn fydd d'etifedd; o'th gnawd dy hun y daw d'etifedd.”

5 Aeth ag ef allan a dywedodd, “Edrych tua'r nefoedd, a rhifa'r sêr os gelli.” Yna dywedodd wrtho, “Felly y bydd dy ddisgynyddion.”

6 Credodd Abram yn yr ARGLWYDD, a chyfrifodd yntau hyn yn gyfiawnder iddo.

7 Yna dywedodd wrtho, “Myfi yw'r ARGLWYDD, a ddaeth â thi o Ur y Caldeaid, i roi'r wlad hon i ti i'w hetifeddu.”

8 Ond dywedodd ef, “O Arglwydd DDUW, sut y caf wybod yr etifeddaf hi?”

9 Dywedodd yntau wrtho, “Dwg imi heffer deirblwydd, gafr deirblwydd, hwrdd teirblwydd, turtur a chyw colomen.”

10 Daeth â'r rhain i gyd ato, a'u hollti'n ddau a gosod y naill ddarn gyferbyn â'r llall; ond ni holltodd yr adar.

11 A phan fyddai adar yn disgyn ar y cyrff byddai Abram yn eu hel i ffwrdd.

12 Fel yr oedd yr haul yn machlud, syrthiodd trymgwsg ar Abram; a dyna ddychryn a thywyllwch dudew yn dod arno.

13 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw'n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe'u cystuddir am bedwar can mlynedd;

14 ond dof â barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu, ac wedi hynny dônt allan gyda meddiannau lawer.

15 Ond byddi di dy hun farw mewn tangnefedd, ac fe'th gleddir mewn oedran teg.

16 A dychwelant hwy yma yn y bedwaredd genhedlaeth; oherwydd ni chwblheir hyd hynny ddrygioni'r Amoriaid.”

17 Yna wedi i'r haul fachlud, ac iddi dywyllu, ymddangosodd ffwrn yn mygu a ffagl fflamllyd yn symud rhwng y darnau hynny.

18 Y dydd hwnnw, gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram a dweud:“I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon,o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.”

19 Dyna wlad y Ceneaid, y Cenesiaid, y Cadmoniaid,

20 yr Hethiaid, y Peresiaid, y Reffaimiaid,

21 yr Amoriaid, y Canaaneaid, y Girgasiaid, a'r Jebusiaid.