Genesis 16 BCN

Hagar ac Ismael

1 Nid oedd plant gan Sarai gwraig Abram, ond yr oedd ganddi forwyn o Eifftes, o'r enw Hagar.

2 Dywedodd Sarai wrth Abram, “Edrych yn awr, y mae'r ARGLWYDD wedi rhwystro imi ddwyn plant. Dos at fy morwyn; efallai y caf blant ohoni hi.” Gwrandawodd Abram ar Sarai.

3 Wedi i Abram fyw am ddeng mlynedd yng ngwlad Canaan, cymerodd Sarai gwraig Abram ei morwyn Hagar yr Eifftes, a'i rhoi'n wraig i'w gŵr Abram.

4 Cafodd ef gyfathrach â Hagar, a beichiogodd hithau; a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, aeth ei meistres yn ddibris yn ei golwg.

5 Yna dywedodd Sarai wrth Abram, “Bydded fy ngham arnat ti! Rhoddais fy morwyn yn dy fynwes, a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, euthum yn ddibris yn ei golwg. Bydded i'r ARGLWYDD farnu rhyngom.”

6 Dywedodd Abram wrth Sarai, “Edrych, y mae dy forwyn dan dy ofal; gwna iddi fel y gweli'n dda.” Yna bu Sarai yn gas wrthi, nes iddi ffoi oddi wrthi.

7 Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd i Hagar wrth ffynnon ddŵr yn y diffeithwch, wrth y ffynnon sydd ar y ffordd i Sur.

8 A dywedodd wrthi, “Hagar forwyn Sarai, o ble y daethost, ac i ble'r wyt yn mynd?” Dywedodd hithau, “Ffoi yr wyf oddi wrth fy meistres Sarai.”

9 A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi, “Dychwel at dy feistres, ac ymostwng iddi.”

10 Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi, “Amlhaf dy ddisgynyddion yn ddirfawr, a byddant yn rhy luosog i'w rhifo.”

11 A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi:“Yr wyt yn feichiog, ac fe esgori ar fab;byddi'n ei alw yn Ismael,oherwydd clywodd yr ARGLWYDD am dy gystudd.

12 Asyn gwyllt o ddyn a fydd,a'i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn ef,un yn byw'n groes i'w holl gymrodyr.”

13 A galwodd hi enw'r ARGLWYDD oedd yn llefaru wrthi yn “Tydi yw El-roi”, oherwydd dywedodd, “A wyf yn wir wedi gweld Duw, a byw ar ôl ei weld?”.

14 Am hynny galwyd y pydew Beer-lahai-roi; y mae rhwng Cades a Bered.

15 Ac esgorodd Hagar ar fab i Abram; ac enwodd Abram y mab a anwyd i Hagar yn Ismael.

16 Yr oedd Abram yn wyth deg a chwech oed pan anwyd iddo Ismael o Hagar.