1 Pan welodd Rachel nad oedd hi yn geni plant i Jacob, cenfigennodd wrth ei chwaer; a dywedodd wrth Jacob, “Rho blant i mi, neu byddaf farw.”
2 Teimlodd Jacob yn ddig wrth Rachel, ac meddai, “A wyf fi yn safle Duw, yr hwn sydd wedi atal ffrwyth dy groth?”
3 Dywedodd hithau, “Dyma fy morwyn Bilha; dos i gael cyfathrach â hi er mwyn iddi ddwyn plant ar fy ngliniau, ac i minnau gael teulu ohoni.”
4 Felly rhoddodd ei morwyn Bilha yn wraig iddo; a chafodd Jacob gyfathrach â hi.
5 Beichiogodd Bilha ac esgor ar fab i Jacob.
6 Yna dywedodd Rachel, “Y mae Duw wedi fy marnu; y mae hefyd wedi gwrando arnaf a rhoi imi fab.” Am hynny galwodd ef Dan.
7 Beichiogodd Bilha morwyn Rachel eilwaith, ac esgor ar ail fab i Jacob.
8 Yna dywedodd Rachel, “Yr wyf wedi ymdrechu'n galed yn erbyn fy chwaer, a llwyddo.” Felly galwodd ef Nafftali.
9 Pan welodd Lea ei bod wedi peidio â geni plant, cymerodd ei morwyn Silpa a'i rhoi'n wraig i Jacob.
10 Yna esgorodd Silpa morwyn Lea ar fab i Jacob,
11 a dywedodd Lea, “Ffawd dda.” Felly galwodd ef Gad.
12 Esgorodd Silpa morwyn Lea ar ail fab i Jacob,
13 a dywedodd Lea, “Dedwydd wyf! Bydd y merched yn fy ngalw yn ddedwydd.” Felly galwodd ef Aser.
14 Yn nyddiau'r cynhaeaf gwenith aeth Reuben allan a chael mandragorau yn y maes, a'u rhoi i Lea ei fam. Yna dywedodd Rachel wrth Lea, “Rho imi rai o fandragorau dy fab.”
15 Ond dywedodd hithau wrthi, “Ai peth dibwys yw dy fod wedi cymryd fy ngŵr? A wyt hefyd am gymryd mandragorau fy mab?” Dywedodd Rachel, “o'r gorau, caiff Jacob gysgu gyda thi heno yn dâl am fandragorau dy fab.”
16 Pan oedd Jacob yn dod o'r maes gyda'r nos, aeth Lea i'w gyfarfod a dweud, “Gyda mi yr wyt i gysgu, oherwydd yr wyf wedi talu am dy gael â mandragorau fy mab.” Felly cysgodd gyda hi y noson honno.
17 A gwrandawodd Duw ar Lea, a beichiogodd ac esgor ar y pumed mab i Jacob.
18 Dywedodd Lea, “Y mae Duw wedi rhoi fy nhâl am imi roi fy morwyn i'm gŵr.” Felly galwodd ef Issachar.
19 Beichiogodd Lea eto, ac esgor ar y chweched mab i Jacob.
20 Yna dywedodd Lea, “Y mae Duw wedi rhoi imi waddol da; yn awr, bydd fy ngŵr yn fy mharchu, am imi esgor ar chwech o feibion iddo.” Felly galwodd ef Sabulon.
21 Wedi hynny esgorodd ar ferch, a galwodd hi Dina.
22 A chofiodd Duw Rachel, a gwrandawodd arni ac agor ei chroth.
23 Beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd, “Y mae Duw wedi tynnu ymaith fy ngwarth.”
24 A galwodd ef Joseff, gan ddweud, “Bydded i'r ARGLWYDD ychwanegu i mi fab arall.”
25 Wedi i Rachel esgor ar Joseff, dywedodd Jacob wrth Laban, “Gad imi ymadael, er mwyn imi fynd i'm cartref fy hun ac i'm gwlad.
26 Rho imi fy ngwragedd a'm plant yr wyf wedi gweithio amdanynt, a gad imi fynd; oherwydd gwyddost fel yr wyf wedi gweithio iti.”
27 Ond dywedodd Laban wrtho, “Os caf ddweud, yr wyf wedi dod i weld mai o'th achos di y mae'r ARGLWYDD wedi fy mendithio i;
28 noda dy gyflog, ac fe'i talaf.”
29 Atebodd yntau, “Gwyddost sut yr wyf wedi gweithio iti, a sut y bu ar dy anifeiliaid gyda mi;
30 ychydig oedd gennyt cyn i mi ddod, ond cynyddodd yn helaeth, a bendithiodd yr ARGLWYDD di bob cam. Yn awr, onid yw'n bryd i mi ddarparu ar gyfer fy nheulu fy hun?”
31 Dywedodd Laban, “Beth a rof i ti?” Atebodd Jacob, “Nid wyt i roi dim i mi. Ond fe fugeiliaf dy braidd eto a'u gwylio, os gwnei hyn imi:
32 gad imi fynd heddiw trwy dy holl braidd a didoli pob dafad frith a broc a phob oen du, a'r geifr brith a broc; a'r rhain fydd fy nghyflog.
33 A chei dystiolaeth i'm gonestrwydd yn y dyfodol pan ddoi i weld fy nghyflog. Pob un o'r geifr nad yw'n frith a broc, ac o'r ŵyn nad yw'n ddu, bydd hwnnw wedi ei ladrata gennyf.”
34 “O'r gorau,” meddai Laban, “bydded yn ôl dy air.”
35 Ond y diwrnod hwnnw didolodd Laban y bychod brith a broc, a'r holl eifr brith a broc, pob un â gwyn arno, a phob oen du, a'u rhoi yng ngofal ei feibion,
36 a'u gosod bellter taith tridiau oddi wrth Jacob; a bugeiliodd Jacob y gweddill o braidd Laban.
37 Yna cymerodd Jacob wiail gleision o boplys ac almon a ffawydd, a thynnu oddi arnynt ddarnau o'r rhisgl, gan ddangos gwyn ar y gwiail.
38 Gosododd y gwiail yr oedd wedi eu rhisglo yn y ffosydd o flaen y praidd, wrth y cafnau dŵr lle byddai'r praidd yn dod i yfed. Gan eu bod yn beichiogi pan fyddent yn dod i yfed,
39 beichiogodd y praidd gyferbyn â'r gwiail, a bwrw ŵyn wedi eu marcio'n frith a broc.
40 Byddai Jacob yn didol yr ŵyn, ond yn troi wynebau'r defaid tuag at y rhai brith a'r holl rai duon ymysg praidd Laban; gosodai ei braidd ei hun ar wahân, heb fod gyda phraidd Laban.
41 Bob tro yr oedd y defaid cryfaf yn beichiogi, yr oedd Jacob yn gosod y gwiail yn y ffosydd gyferbyn â'r praidd, er mwyn iddynt feichiogi o flaen y gwiail,
42 ond nid oedd yn eu gosod ar gyfer defaid gwan y praidd; felly daeth y gwannaf yn eiddo Laban, a'r cryfaf yn eiddo Jacob.
43 Fel hyn cynyddodd ei gyfoeth ef yn fawr, ac yr oedd ganddo breiddiau niferus, morynion a gweision, camelod ac asynnod.