Genesis 37 BCN

Joseff a'i Freuddwydion

1 Preswyliodd Jacob yng ngwlad Canaan, y wlad yr ymdeithiodd ei dad ynddi.

2 Dyma hanes tylwyth Jacob.Yr oedd Joseff yn ddwy ar bymtheg oed, ac yn bugeilio'r praidd gyda'i frodyr, gan helpu meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad; a chariodd Joseff straeon drwg amdanynt i'w tad.

3 Yr oedd Israel yn caru Joseff yn fwy na'i holl blant, gan mai mab ei henaint ydoedd; a gwnaeth wisg laes iddo.

4 Pan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu yn fwy na'r un ohonynt, rhoesant eu cas arno fel na fedrent ddweud gair caredig wrtho.

5 Cafodd Joseff freuddwyd, a phan ddywedodd wrth ei frodyr amdani, aethant i'w gasáu yn fwy fyth.

6 Dywedodd wrthynt, “Gwrandewch, dyma'r freuddwyd a gefais:

7 yr oeddem yn rhwymo ysgubau yn y maes, a dyma f'ysgub i yn codi ar ei sefyll, a daeth eich ysgubau chwi yn gylch o'i chwmpas ac ymgrymu i'm hysgub i.”

8 Yna gofynnodd ei frodyr iddo, “Ai ti sydd i deyrnasu arnom? A fyddi di'n arglwydd arnom ni?” Ac aethant i'w gasáu ef yn fwy eto o achos ei freuddwydion a'i eiriau.

9 Yna cafodd freuddwyd arall, ac adroddodd amdani wrth ei frodyr a dweud, “Cefais freuddwyd arall: dyna lle'r oedd yr haul a'r lleuad ac un seren ar ddeg yn ymgrymu i mi.”

10 Wedi iddo ei hadrodd wrth ei dad a'i frodyr, ceryddodd ei dad ef, a dweud, “Beth yw'r freuddwyd hon a gefaist? A ddown ni, myfi a'th fam a'th frodyr, i ymgrymu i'r llawr i ti?”

11 A chenfigennodd ei frodyr wrtho, ond cadwodd ei dad y peth yn ei gof.

Gwerthu Joseff a'i Gymryd i'r Aifft

12 Yr oedd ei frodyr wedi mynd i fugeilio praidd eu tad ger Sichem.

13 A dywedodd Israel wrth Joseff, “Onid yw dy frodyr yn bugeilio ger Sichem? Tyrd, fe'th anfonaf di atynt.” Atebodd yntau, “o'r gorau.”

14 Yna dywedodd wrtho, “Dos i weld sut y mae dy frodyr a'r praidd, a thyrd â gair yn ôl i mi.” Felly anfonodd ef o ddyffryn Hebron, ac aeth tua Sichem.

15 Cyfarfu gŵr ag ef pan oedd yn crwydro yn y fro, a gofyn iddo, “Beth wyt ti'n ei geisio?”

16 Atebodd yntau, “Rwy'n ceisio fy mrodyr; dywed wrthyf ble maent yn bugeilio.”

17 A dywedodd y gŵr, “Y maent wedi mynd oddi yma, oherwydd clywais hwy'n dweud, ‘Awn i Dothan.’ ” Felly aeth Joseff ar ôl ei frodyr, a chafodd hyd iddynt yn Dothan.

18 Gwelsant ef o bell, a chyn iddo gyrraedd atynt gwnaethant gynllwyn i'w ladd,

19 a dweud wrth ei gilydd, “Dacw'r breuddwydiwr hwnnw'n dod.

20 Dewch, gadewch inni ei ladd a'i daflu i ryw bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ddifa; yna cawn weld beth a ddaw o'i freuddwydion.”

21 Ond pan glywodd Reuben, achubodd ef o'u gafael a dweud, “Peidiwn â'i ladd.”

22 Dywedodd Reuben wrthynt, “Peidiwch â thywallt gwaed; taflwch ef i'r pydew hwn sydd yn y diffeithwch, ond peidiwch â gwneud niwed iddo.” Dywedodd hyn er mwyn ei achub o'u gafael a'i ddwyn yn ôl at ei dad.

23 A phan ddaeth Joseff at ei frodyr, tynasant ei wisg oddi arno, y wisg laes yr oedd yn ei gwisgo,

24 a'i gymryd a'i daflu i'r pydew. Yr oedd y pydew yn wag, heb ddŵr ynddo.

25 Tra oeddent yn eistedd i fwyta, codasant eu golwg a gweld cwmni o Ismaeliaid yn dod ar eu taith o Gilead, a'u camelod yn dwyn glud pêr, balm a myrr, i'w cludo i lawr i'r Aifft.

26 A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, “Faint gwell fyddwn o ladd ein brawd a chelu ei waed?

27 Dewch, gadewch inni ei werthu i'r Ismaeliaid; peidiwn â gwneud niwed iddo, oherwydd ein brawd ni a'n cnawd ydyw.” Cytunodd ei frodyr.

28 Yna, pan ddaeth marchnatwyr o Midian heibio, codasant Joseff o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am ugain sicl o arian. Aethant hwythau â Joseff i'r Aifft.

29 Pan aeth Reuben yn ôl at y pydew a gweld nad oedd Joseff ynddo, rhwygodd ei ddillad

30 a mynd at ei frodyr a dweud, “Nid yw'r bachgen yno; a minnau, i ble'r af?”

31 Cymerasant wisg Joseff, a lladd gafr, a throchi'r wisg yn y gwaed.

32 Yna aethant â'r wisg laes yn ôl at eu tad, a dweud, “Daethom o hyd i hon; edrych di ai gwisg dy fab ydyw.”

33 Fe'i hadnabu a dywedodd, “Gwisg fy mab yw hi; anifail gwyllt sydd wedi ei ddifa. Yn wir, y mae Joseff wedi ei larpio.”

34 Yna rhwygodd Jacob ei ddillad a gwisgo sachliain am ei lwynau, a galarodd am ei fab am amser hir.

35 A daeth pob un o'i feibion a'i ferched i'w gysuro, ond gwrthododd dderbyn cysur, a dywedodd, “Mewn galar yr af finnau i lawr i'r bedd at fy mab.” Ac wylodd ei dad amdano.

36 Gwerthodd y Midianiaid ef yn yr Aifft i Potiffar, swyddog Pharo, pennaeth y gwarchodwyr.