Genesis 9 BCN

Cyfamod Duw â Noa

1 Bendithiodd Duw Noa a'i feibion a dweud, “Byddwch ffrwythlon, amlhewch a llanwch y ddaear.

2 Bydd eich ofn a'ch arswyd ar yr holl fwystfilod gwyllt, ar holl adar yr awyr, ar holl ymlusgiaid y tir ac ar holl bysgod y môr; gosodwyd hwy dan eich awdurdod.

3 Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth.

4 Ond peidiwch â bwyta cig â'i einioes, sef ei waed, ynddo.

5 Yn wir, mynnaf iawn am waed eich einioes; mynnaf ef gan bob bwystfil a chan bobl; ie, mynnaf iawn am fywyd y sawl a leddir gan arall.

6 “A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau;oherwydd gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun.

7 Chwithau, byddwch ffrwythlon ac amlhewch,epiliwch ar y ddaear ac amlhewch ynddi.”

8 Llefarodd Duw wrth Noa a'i feibion, a dweud,

9 “Dyma fi'n sefydlu fy nghyfamod â chwi ac â'ch had ar eich ôl,

10 ac â phob creadur byw gyda chwi, yn adar ac anifeiliaid, a'r holl fwystfilod gwyllt sydd gyda chwi, y cwbl a ddaeth allan o'r arch.

11 Sefydlaf fy nghyfamod â chwi, rhag torri ymaith eto bob cnawd trwy ddyfroedd dilyw, na bod dilyw arall i ddifa'r ddaear.”

12 A dywedodd Duw, “Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud â chwi ac â phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif:

13 gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear.

14 Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl,

15 a chofiaf fy nghyfamod rhyngof a chwi a phob creadur byw o bob math, ac ni ddaw'r dyfroedd eto yn ddilyw i ddifa pob cnawd.

16 Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob creadur byw o bob math ar y ddaear.”

17 Dywedodd Duw wrth Noa, “Dyma arwydd y cyfamod yr wyf wedi ei sefydlu rhyngof a phob cnawd ar y ddaear.”

Noa a'i Feibion

18 Sem, Cham a Jaffeth oedd meibion Noa a ddaeth allan o'r arch. Cham oedd tad Canaan.

19 Dyma dri mab Noa, ac ohonynt y poblogwyd yr holl ddaear.

20 Dechreuodd Noa fod yn amaethwr. Plannodd winllan,

21 ac yna yfodd o'r gwin nes meddwi, a gorwedd yn noeth yn ei babell.

22 Gwelodd Cham, tad Canaan, ei dad yn noeth, a dywedodd wrth ei ddau frawd y tu allan;

23 ond cymerodd Sem a Jaffeth fantell a'i gosod ar eu hysgwyddau, a cherdded yn wysg eu cefnau a gorchuddio noethni eu tad, gan droi eu hwynebau i ffwrdd rhag gweld noethni eu tad.

24 Pan ddeffrôdd Noa o'i win, a gwybod beth yr oedd ei fab ieuengaf wedi ei wneud iddo,

25 dywedodd,“Melltigedig fyddo Canaan;gwas i weision ei frodyr fydd.”

26 Dywedodd hefyd,“Bendigedig gan yr ARGLWYDD fy Nuw fyddo Sem;bydded Canaan yn was iddo.

27 Helaethed Duw Jaffeth, iddo breswylio ym mhebyll Sem;bydded Canaan yn was iddo.”

28 Bu Noa fyw wedi'r dilyw am dri chant a hanner o flynyddoedd.

29 Felly yr oedd oes gyfan Noa yn naw cant a hanner o flynyddoedd; yna bu farw.