Genesis 25 BCN

Disgynyddion Eraill Abraham

1 Cymerodd Abraham wraig arall o'r enw Cetura.

2 Ohoni hi ganwyd iddo Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac a Sua.

3 Jocsan oedd tad Seba a Dedan; a meibion Dedan oedd Assurim, Letusim a Lewmmim.

4 Meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida ac Eldaa. Yr oedd y rhain i gyd yn blant Cetura.

5 Rhoddodd Abraham ei holl eiddo i Isaac.

6 Ond tra oedd eto'n fyw, yr oedd Abraham wedi rhoi anrhegion i feibion ei wragedd gordderch, ac wedi eu hanfon ymaith oddi wrth ei fab Isaac, draw i wlad ddwyreiniol.

Marw Abraham a'i Gladdu

7 Yr oedd oes gyfan Abraham yn gant saith deg a phump o flynyddoedd.

8 Anadlodd Abraham ei anadl olaf, a bu farw wedi oes hir, yn hen ac oedrannus; a chladdwyd ef gyda'i dylwyth.

9 Claddwyd ef gan ei feibion Isaac ac Ismael yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, i'r dwyrain o Mamre,

10 y maes yr oedd Abraham wedi ei brynu gan yr Hethiaid. Yno y claddwyd Abraham gyda'i wraig Sara.

11 Wedi marw Abraham bendithiodd Duw ei fab Isaac, ac arhosodd Isaac ger Beer-lahai-roi.

Disgynyddion Ismael

12 Dyma genedlaethau Ismael fab Abraham, a anwyd iddo o Hagar yr Eifftes, morwyn Sara.

13 Dyma enwau meibion Ismael, yn nhrefn eu geni: Nebaioth, cyntafanedig Ismael, a Cedar, Adbeel, Mibsam,

14 Misma, Duma, Massa,

15 Hadad, Tema, Jetur, Naffis a Cedema.

16 Dyna feibion Ismael, a dyna enwau deuddeg tywysog y llwythau yn ôl eu trefi a'u gwersylloedd.

17 Hyd oes Ismael oedd cant tri deg a saith o flynyddoedd; anadlodd ei anadl olaf, a chladdwyd ef gyda'i dylwyth.

18 Yr oeddent yn trigo o Hafila hyd Sur, i'r dwyrain o'r Aifft, i gyfeiriad Asyria; yr oeddent yn erbyn eu holl frodyr.

Geni Esau a Jacob

19 Dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: tad Isaac oedd Abraham,

20 ac yr oedd Isaac yn ddeugain mlwydd oed pan gymerodd yn wraig Rebeca ferch Bethuel yr Aramead o Padan Aram, chwaer Laban yr Aramead.

21 A gweddïodd Isaac ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod heb eni plentyn. Atebodd yr ARGLWYDD ei weddi, a beichiogodd ei wraig Rebeca.

22 Aflonyddodd y plant ar ei gilydd yn ei chroth, a dywedodd hithau, “Pam y mae fel hyn arnaf?” Aeth i ymofyn â'r ARGLWYDD,

23 a dywedodd yr ARGLWYDD wrthi,“Dwy genedl sydd yn dy groth,a gwahenir dau lwyth o'th fru,bydd y naill yn gryfach na'r llall,a'r hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf.”

24 Pan ddaeth ei dyddiau i esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth.

25 Daeth y cyntaf allan yn goch, a'i holl gorff fel mantell flewog; am hynny galwyd ef Esau.

26 Wedyn daeth ei frawd allan, a'i law yn gafael yn sawdl Esau; am hynny galwyd ef Jacob. Yr oedd Isaac yn drigain oed pan anwyd hwy.

Esau'n Gwerthu ei Enedigaeth-fraint

27 Tyfodd y bechgyn, a daeth Esau yn heliwr medrus, yn ŵr y maes; ond yr oedd Jacob yn ŵr tawel, yn byw mewn pebyll.

28 Yr oedd Isaac yn hoffi Esau, am ei fod yn bwyta o'i helfa; ond yr oedd Rebeca yn hoffi Jacob.

29 Un tro pan oedd Jacob yn berwi cawl, daeth Esau o'r maes ar ddiffygio.

30 A dywedodd Esau wrth Jacob, “Gad imi fwyta o'r cawl coch yma, oherwydd yr wyf ar ddiffygio.” Dyna pam y galwyd ef Edom.

31 Dywedodd Jacob, “Gwertha imi'n awr dy enedigaeth-fraint.”

32 A dywedodd Esau, “Pa les yw genedigaeth-fraint i mi, a minnau ar fin marw?”

33 Dywedodd Jacob, “Dos ar dy lw i mi yn awr.” Felly aeth ar ei lw, a gwerthu ei enedigaeth-fraint i Jacob.

34 Yna rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau; bwytaodd ac yfodd, ac yna codi a mynd ymaith. Fel hyn y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.