Genesis 6 BCN

Drygioni'r Bobl

1 Dechreuodd y bobl amlhau ar wyneb y ddaear, a ganwyd merched iddynt;

2 yna gwelodd meibion Duw fod y merched yn hardd, a chymerasant wragedd o'u plith yn ôl eu dewis.

3 A dywedodd yr ARGLWYDD, “Ni fydd fy ysbryd yn aros am byth mewn meidrolyn, oherwydd cnawd yw; ond cant ac ugain o flynyddoedd fydd hyd ei oes.”

4 Y Neffilim oedd ar y ddaear yr amser hwnnw, ac wedi hynny hefyd, pan oedd meibion Duw yn cyfathrachu â'r merched, a hwythau'n geni plant iddynt. Dyma'r cedyrn gynt, gwŷr enwog.

5 Pan welodd yr ARGLWYDD fod drygioni'r bobl yn fawr ar y ddaear, a bod holl ogwydd eu bwriadau bob amser yn ddrwg,

6 bu edifar gan yr ARGLWYDD iddo wneud dyn ar y ddaear, a gofidiodd yn fawr.

7 Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Dileaf oddi ar wyneb y ddaear y bobl a greais, ie, dyn ac anifail, ymlusgiaid ac adar yr awyr, oherwydd y mae'n edifar gennyf imi eu gwneud.”

8 Ond cafodd Noa ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD.

Noa

9 Dyma genedlaethau Noa. Gŵr cyfiawn oedd Noa, perffaith yn ei oes; a rhodiodd Noa gyda Duw.

10 Yr oedd Noa'n dad i dri o feibion: Sem, Cham a Jaffeth.

11 Aeth y ddaear yn llygredig gerbron Duw, ac yn llawn trais.

12 A gwelodd Duw fod y ddaear yn llygredig, am fod bywyd pob peth byw ar y ddaear wedi ei lygru.

13 Yna dywedodd Duw wrth Noa, “Yr wyf wedi penderfynu difodi pob cnawd, oherwydd llanwyd y ddaear â thrais ganddynt; yr wyf am eu difetha o'r ddaear.

14 Gwna i ti arch o bren goffer; gwna gelloedd ynddi a rho drwch o byg arni, oddi mewn ac oddi allan.

15 Dyma'i chynllun: hyd yr arch, tri chan cufydd; ei lled, hanner can cufydd; ei huchder, deg cufydd ar hugain.

16 Gwna do hefyd i'r arch, a gorffen ei grib gufydd yn uwch; gosod ddrws yr arch yn ei hochr, a gwna hi'n dri llawr, yr isaf, y canol a'r uchaf.

17 Edrych, yr wyf ar fin dwyn dyfroedd y dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd dan y nef ag anadl einioes ynddo; bydd popeth ar y ddaear yn trengi.

18 Ond sefydlaf fy nghyfamod â thi; fe ei di i'r arch, ti a'th feibion a'th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi.

19 Yr wyt i fynd â dau o bob math o'r holl greaduriaid byw i mewn i'r arch i'w cadw'n fyw gyda thi, sef gwryw a benyw.

20 Daw atat ddau o bob math o'r adar yn ôl eu rhywogaeth, o'r anifeiliaid yn ôl eu rhywogaeth, ac o holl ymlusgiaid y tir yn ôl eu rhywogaeth, i'w cadw'n fyw.

21 Cymer hefyd o bob bwyd sy'n cael ei fwyta, a chasgla ef ynghyd; bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.”

22 Felly y gwnaeth Noa; gwnaeth bopeth fel y gorchmynnodd Duw iddo.