Genesis 22 BCN

Aberthu Isaac

1 Wedi'r pethau hyn, rhoddodd Duw brawf ar Abraham.

2 “Abraham,” meddai wrtho, ac atebodd yntau, “Dyma fi.” Yna dywedodd, “Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy'n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar y mynydd a ddangosaf iti.”

3 Felly cododd Abraham yn fore, cyfrwyodd ei asyn, a chymryd dau lanc gydag ef, a'i fab Isaac; a holltodd goed i'r poethoffrwm, a chychwynnodd i'r lle y dywedodd Duw wrtho.

4 Ar y trydydd dydd cododd Abraham ei olwg, a gwelodd y lle o hirbell.

5 Yna dywedodd Abraham wrth ei lanciau, “Arhoswch chwi yma gyda'r asyn; mi af finnau a'r bachgen draw ac addoli, ac yna dychwelwn atoch.”

6 Cymerodd goed y poethoffrwm a'u gosod ar ei fab Isaac; a chymerodd y tân a'r gyllell yn ei law ei hun. Ac felly yr aethant ill dau ynghyd.

7 Yna dywedodd Isaac wrth ei dad Abraham, “Fy nhad.” Atebodd yntau, “Ie, fy mab?” Ac meddai Isaac, “Dyma'r tân a'r coed; ond ble mae oen y poethoffrwm?”

8 Dywedodd Abraham, “Duw ei hun fydd yn darparu oen y poethoffrwm, fy mab.” Ac felly aethant ill dau gyda'i gilydd.

9 Wedi iddynt gyrraedd i'r lle'r oedd Duw wedi dweud wrtho, adeiladodd Abraham allor, trefnodd y coed, a rhwymodd ei fab Isaac a'i osod ar yr allor, ar ben y coed.

10 Yna estynnodd Abraham ei law, a chymryd y gyllell i ladd ei fab.

11 Ond galwodd angel yr ARGLWYDD arno o'r nef, a dweud, “Abraham! Abraham!” Dywedodd yntau, “Dyma fi.”

12 A dywedodd, “Paid â gosod dy law ar y bachgen, na gwneud dim iddo; oherwydd gwn yn awr dy fod yn ofni Duw, gan nad wyt wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi.”

13 Cododd Abraham ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd hwrdd y tu ôl iddo wedi ei ddal gerfydd ei gyrn mewn drysni; aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a'i offrymu yn boethoffrwm yn lle ei fab.

14 Ac enwodd Abraham y lle hwnnw, “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”; fel y dywedir hyd heddiw, “Ar fynydd yr ARGLWYDD fe ddarperir.”

15 Galwodd angel yr ARGLWYDD eilwaith o'r nef ar Abraham,

16 a dweud, “Tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd iti wneud hyn, heb wrthod rhoi dy fab, dy unig fab,

17 bendithiaf di yn fawr, ac amlhau dy ddisgynyddion yn ddirfawr, fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr. Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu pyrth eu gelynion,

18 a thrwyddynt bendithir holl genhedloedd y ddaear, am iti ufuddhau i'm llais.”

19 Yna dychwelodd Abraham at ei lanciau ac aethant gyda'i gilydd i Beerseba; ac arhosodd Abraham yn Beerseba.

Disgynyddion Nachor

20 Wedi'r pethau hyn, mynegwyd i Abraham, “Y mae Milca wedi geni plant i'th frawd Nachor:

21 Hus ei gyntafanedig, a'i frawd Bus, Cemuel tad Aram,

22 Cesed, Haso, Pildas, Idlaff, a Bethuel.”

23 Bethuel oedd tad Rebeca. Ganwyd yr wyth hyn o Milca i Nachor, brawd Abraham.

24 Hefyd esgorodd Reuma, ei ordderch, ar Teba, Gaham, Tahas a Maacha.