Genesis 45 BCN

Joseff yn ei Ddatgelu ei hun i'w Frodyr

1 Methodd Joseff ymatal yng ngŵydd ei weision, a gwaeddodd, “Gyrrwch bawb allan oddi wrthyf.” Felly nid arhosodd neb gyda Joseff pan ddatgelodd i'w frodyr pwy ydoedd.

2 Wylodd yn uchel, nes bod yr Eifftiaid a theulu Pharo yn ei glywed,

3 a dywedodd wrth ei frodyr, “Joseff wyf fi. A yw fy nhad yn dal yn fyw?” Ond ni allai ei frodyr ei ateb, gan eu bod wedi eu cynhyrfu wrth ei weld.

4 Yna meddai Joseff wrth ei frodyr, “Dewch yn nes ataf.” Wedi iddynt nesáu, dywedodd, “Myfi yw eich brawd Joseff, a werthwyd gennych i'r Aifft.

5 Yn awr, peidiwch â chyffroi na bod yn ddig wrthych eich hunain, am i chwi fy ngwerthu i'r lle hwn, oherwydd anfonodd Duw fi o'ch blaen er mwyn diogelu bywyd.

6 Bu newyn drwy'r wlad y ddwy flynedd hyn; a bydd eto bum mlynedd heb aredig na medi.

7 Anfonodd Duw fi o'ch blaen i sicrhau hil i chwi ar y ddaear, ac i gadw'n fyw o'ch plith nifer mawr o waredigion.

8 Felly nid chwi ond Duw a'm hanfonodd yma, a'm gwneud fel tad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dylwyth a llywodraethwr dros holl wlad yr Aifft.

9 Ewch ar frys at fy nhad a dywedwch wrtho, ‘Dyma y mae dy fab Joseff yn ei ddweud: “Y mae Duw wedi fy ngwneud yn arglwydd ar yr Aifft i gyd. Tyrd i lawr ataf, paid ag oedi dim.

10 Cei fyw yn f'ymyl yng ngwlad Gosen gyda'th blant a'th wyrion, dy ddefaid a'th wartheg, a'th holl eiddo;

11 a chynhaliaf di yno, rhag i ti na neb o'th dylwyth fynd yn dlawd, oherwydd fe fydd eto bum mlynedd o newyn.” ’

12 Yn awr yr ydych chwi a'm brawd Benjamin yn llygad-dystion mai myfi'n wir sy'n siarad â chwi.

13 Rhaid ichwi ddweud wrth fy nhad am yr holl anrhydedd yr wyf wedi ei gael yn yr Aifft, ac am bopeth yr ydych wedi ei weld. Ewch ar unwaith, a dewch â'm tad i lawr yma.”

14 Yna rhoes ei freichiau am wddf ei frawd Benjamin ac wylo; ac wylodd Benjamin ar ei ysgwydd yntau.

15 Cusanodd ei frodyr i gyd, gan wylo. Wedyn cafodd ei frodyr sgwrs ag ef.

16 Pan ddaeth y newydd i dŷ Pharo fod brodyr Joseff wedi cyrraedd, llawenhaodd Pharo a'i weision.

17 Dywedodd Pharo wrth Joseff, “Dywed wrth dy frodyr, ‘Gwnewch fel hyn: llwythwch eich anifeiliaid a theithio'n ôl i wlad Canaan.

18 Yna dewch â'ch tad a'ch teuluoedd ataf, a rhof ichwi orau gwlad yr Aifft, a chewch fyw ar fraster y wlad.’

19 Yna gorchymyn iddynt, ‘Gwnewch fel hyn: cymerwch wageni o wlad yr Aifft i'ch rhai bach ac i'ch gwragedd, a dewch â'ch tad yma.

20 Peidiwch â phryderu am eich celfi; y mae gorau holl wlad yr Aifft at eich galwad.’ ”

21 Gwnaeth meibion Israel felly; rhoddodd Joseff wageni iddynt, ar orchymyn Pharo, a bwyd at y daith.

22 Rhoddodd wisg newydd hefyd i bob un ohonynt, ond i Benjamin rhoddodd dri chant o ddarnau arian a phum gwisg newydd.

23 Dyma a anfonodd i'w dad: deg asyn yn llwythog o bethau gorau'r Aifft, a deg o asennod yn cario ŷd a bara, a bwyd i'w dad at y daith.

24 Yna anfonodd ei frodyr ymaith, ac wrth iddynt gychwyn dywedodd, “Peidiwch â chweryla ar y ffordd.”

25 Felly aethant o'r Aifft a dod i wlad Canaan at eu tad Jacob.

26 Dywedasant wrtho, “Y mae Joseff yn dal yn fyw, ac ef yw llywodraethwr holl wlad yr Aifft.” Aeth yntau yn wan drwyddo, oherwydd nid oedd yn eu credu.

27 Ond pan adroddasant iddo holl eiriau Joseff, fel y dywedodd ef wrthynt, a phan welodd y wageni yr oedd Joseff wedi eu hanfon i'w gludo, adfywiodd ysbryd eu tad Jacob.

28 A dywedodd Israel, “Dyma ddigon, y mae fy mab Joseff yn dal yn fyw. Af finnau i'w weld cyn marw.”