1 Un iaith ac un ymadrodd oedd i'r holl fyd.
2 Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd yng ngwlad Sinar a thrigo yno.
3 A dywedasant wrth ei gilydd, “Dewch, gwnawn briddfeini a'u crasu'n galed.” Priddfeini oedd ganddynt yn lle cerrig, a phyg yn lle calch.
4 Yna dywedasant, “Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear.”