10 Dyma genedlaethau Sem. Bu Sem fyw am gan mlynedd cyn geni iddo Arffaxad ddwy flynedd wedi'r dilyw.
11 Wedi geni Arffaxad, bu Sem fyw am bum can mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.
12 Bu Arffaxad fyw am dri deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Sela.
13 Wedi geni Sela, bu Arffaxad fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
14 Bu Sela fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Heber.
15 Wedi geni Heber, bu Sela fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
16 Bu Heber fyw am dri deg a phedair o flynyddoedd cyn geni iddo Peleg.