14 Bu Sela fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Heber.
15 Wedi geni Heber, bu Sela fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
16 Bu Heber fyw am dri deg a phedair o flynyddoedd cyn geni iddo Peleg.
17 Wedi geni Peleg, bu Heber fyw am bedwar cant tri deg o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
18 Bu Peleg fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Reu.
19 Wedi geni Reu, bu Peleg fyw am ddau gant a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
20 Bu Reu fyw am dri deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Serug.