19 Wedi geni Reu, bu Peleg fyw am ddau gant a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
20 Bu Reu fyw am dri deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Serug.
21 Wedi geni Serug, bu Reu fyw am ddau gant a saith o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
22 Bu Serug fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Nachor.
23 Wedi geni Nachor, bu Serug fyw am ddau gan mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.
24 Bu Nachor fyw am ddau ddeg a naw o flynyddoedd cyn geni iddo Tera.
25 Wedi geni Tera, bu Nachor fyw am gant un deg a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.