24 Bu Nachor fyw am ddau ddeg a naw o flynyddoedd cyn geni iddo Tera.
25 Wedi geni Tera, bu Nachor fyw am gant un deg a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
26 Bu Tera fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Abram, Nachor a Haran.
27 Dyma genedlaethau Tera. Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran; a Haran oedd tad Lot.
28 Bu Haran farw cyn ei dad Tera yng ngwlad ei enedigaeth, yn Ur y Caldeaid.
29 Yna cymerodd Abram a Nachor wragedd iddynt eu hunain; enw gwraig Abram oedd Sarai, ac enw gwraig Nachor oedd Milca, merch Haran, tad Milca ac Isca.
30 Yr oedd Sarai yn ddi-blant, heb eni plentyn.