4 Yna dywedasant, “Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear.”
5 Disgynnodd yr ARGLWYDD i weld y ddinas a'r tŵr yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu,
6 a dywedodd, “Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud.
7 Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad.”
8 Felly gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas.
9 Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear.
10 Dyma genedlaethau Sem. Bu Sem fyw am gan mlynedd cyn geni iddo Arffaxad ddwy flynedd wedi'r dilyw.