1 Yna aeth Abram i fyny o'r Aifft i'r Negef, ef a'i wraig a'i holl eiddo, a hefyd Lot.
2 Yr oedd Abram yn gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian ac aur.
3 Teithiodd ymlaen o'r Negef hyd Bethel, i'r man rhwng Bethel ac Ai lle'r oedd ei babell ar y dechrau,
4 y man lle'r oedd wedi gwneud allor ar y cychwyn; ac yno galwodd Abram ar enw'r ARGLWYDD.
5 Yr oedd gan Lot, a oedd yn teithio gydag Abram, hefyd ddefaid ac ychen a phebyll;
6 ac ni allai'r tir eu cynnal ill dau gyda'i gilydd. Am fod eu meddiannau mor helaeth, ni allent drigo ynghyd;