15 oherwydd yr holl dir yr wyt yn ei weld, fe'i rhoddaf i ti ac i'th ddisgynyddion hyd byth.
16 Gwnaf dy had fel llwch y ddaear; os dichon neb rifo llwch y ddaear, yna fe rifir dy had di.
17 Cod, rhodia ar hyd a lled y wlad, oherwydd i ti yr wyf yn ei rhoi.”
18 Yna symudodd Abram ei babell a mynd i fyw wrth dderw Mamre, sydd yn Hebron; ac adeiladodd allor yno i'r ARGLWYDD.