13 Rhaid enwaedu'r sawl a enir i'r teulu, a'r sawl a brynir â'th arian; a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd yn gyfamod tragwyddol.
14 Y mae unrhyw wryw dienwaededig nad enwaedwyd cnawd ei flaengroen, i'w dorri ymaith o blith ei bobl; y mae wedi torri fy nghyfamod.”
15 Dywedodd Duw wrth Abraham, “Ynglŷn â'th wraig Sarai: nid Sarai y gelwir hi, ond Sara fydd ei henw.
16 Bendithiaf hi, a rhoddaf i ti fab ohoni; ie, bendithiaf hi, a bydd yn fam i genhedloedd, a daw brenhinoedd pobloedd ohoni.”
17 Ymgrymodd Abraham, ond chwarddodd ynddo'i hun, a dweud, “A enir plentyn i ŵr canmlwydd oed? A fydd Sara'n geni plentyn yn naw deg oed?”
18 A dywedodd Abraham wrth Dduw, “O na byddai Ismael fyw ger dy fron!”
19 Ond dywedodd Duw, “Na, bydd dy wraig Sara yn geni iti fab, a gelwi ef Isaac. Sefydlaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol i'w ddisgynyddion ar ei ôl.